Transcribed from the 1909 Ab Owen edition , email ccx074@coventry.ac.uk

GWAITH ALUN

John Blackwell (Alun)

Gwaith Alun

Rhagymadrodd.

Ganwyd John Blackwell (Alun) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn1797.  Un o Langwm oedd ei fam—gwraig ddarbodus a meddylgar;a dilynai ei mab hi i’r seiat a’r Ysgol Sul, gan hynodiei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau.  Mwnwr call, dwys,distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntauâ’i fachgen.

Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwydef gyda chrydd oedd yn fardd.  Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrwei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai’naml i Gaer i chwilio’r siopau.  Derbyniai gylchgronau, prynnailyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd.  Llenorion yr ardal oedd eigyfeillion, y gynghanedd ei hoffter.

Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru.  YnEisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a’r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda’iawdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda’i awdl MaesGarmon yn yr olaf.  Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddaueglwysig, a chafodd noddwyr caredig.

Yn 1824 aeth i’r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afonRhiw i afon Hafren.  Yma dysgai Ladin a Groeg gyda’r ficer,y Parch. Thomas Richards.  Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymeroddei awen edyn ysgafnach, cywreiniach.  Clerigwyr pobtu’r Hafrenoedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestolar yr iaith Gymraeg.

Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasioddei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828.  Ymdrechodd yn galed; a’ifryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig,ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd.  Gloewodd ei awen, adysgodd felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.

Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am eiFarwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd,trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.

Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon.  Bu yno,yn fawr ei barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd ArglwyddBrougham iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro.  Yn 1834 cychwynoddy Cylchgrawn, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaithclasurol a phur.  Yr oedd y Gwladgarwr eisoes ar y maes;a digiodd Alun ei gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl,am wrth-ymgais.  Ond ychydig elynion fu iddo.  Yr oedd moranhunangar a hael ei ysbryd, mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur eifuchedd.

Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi.  Cyhoeddwydei waith yn 1851.

Eos Cymru oedd Alun,—yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlustei genedl.

OWEN M. EDWARDS.
Ebrill 9, 1909.

Cynhwysiad.

[Ceisiwyd trefnu’r darnau mor agos ag y gellid i’w trefnamseryddol.]

I.  Y WYDDGRUG.  1797-1824.

Iddo Ef
Angau
Cymdeithas Caer
Dau Englyn Priodas
Genedigaeth Iorwerth II.
Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr
Llwydd Groeg
Eisteddfod Caerwys
Dafydd Ionawr
Gwyl Ddewi
Eisteddfod y Wydderug
Rhywun
Maes Garmon

II.  ABERIW.  1824.

Bywy

...

BU KİTABI OKUMAK İÇİN ÜYE OLUN VEYA GİRİŞ YAPIN!


Sitemize Üyelik ÜCRETSİZDİR!